Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA389 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio)
2014.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (Offeryn Statudol 2009/470) ('y Prif Reoliadau'). Y Prif Reoliadau sy'n llywodraethu ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n dibynnu ar incwm a gafodd eu talu i fyfyrwyr o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30). Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â darparu gwybodaeth a gwneud ad-daliadau.
Gweithdrefn: Negyddol
1. Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Gan mai Gorchymyn Cyfansawdd yw hwn, dim ond yn Saesneg y mae wedi'i wneud.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]
2. Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
3. Ymateb y Llywodraeth
Ni chafwyd ymateb gan y Llywodraeth ar adeg y cyfarfod.
4. Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor y rheoliadau yn ei gyfarfod ar 31 Mawrth 2014 a chyflwynodd adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd technegol o dan adran 1 uchod.